Lleoliad:
Dyddiad: Dydd Llun, 13 Tachwedd 2023
Amser:
14.00 -
15.31
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13554
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Jack Sargeant AS (Cadeirydd) Rhys ab Owen AS Joel James AS Peredur Owen Griffiths AS Buffy Williams AS |
Tystion: |
David Blackwell, St Richard Gwyn Catholic High School, Barry and Chair of the vale of Glamorgan Education Budget Forum Matthew Gilbert, Barry Island Primary School Laurence Matuszczyk, Merthyr Tydfil School Governor Association Dr Martin Price, Vale School Governor Association |
Staff y Pwyllgor: |
Mared Llwyd (Ail Glerc) Kayleigh Imperato (Dirprwy Glerc) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
2 Sesiwn dystiolaeth – P-06-1358 Adolygu'r cyllid annigonol ar gyfer ysgolion yng Nghymru
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Dr Martin Price, Cadeirydd Cymdeithas Llywodraethwyr Ysgolion y Fro, Laurence Matuszczyk, Cadeirydd Cymdeithas Llywodraethwyr Ysgol Merthyr Tudful, David Blackwell, Pennaeth Ysgol Uwchradd Gatholig St Richard Gwyn, y Barri a Chadeirydd Fforwm Cyllideb Addysg Bro Morgannwg. a Matthew Gilbert, Pennaeth, Ysgol Gynradd Ynys y Barri.
3 Deisebau Newydd
3.1 P-06-1360 Dylid adeiladu ffordd ymadael syml rhwng yr M48 tua'r gorllewin a'r M4 tua'r dwyrain yn Rhosied
Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r ohebiaeth gan Lywodraeth Cymru a nododd nad oes unrhyw gynlluniau i gyflwyno ffordd ymadael yn y lleoliad hwn, ac na fyddai'r mater penodol hwn yn bodloni'r meini prawf ar gyfer ariannu ffyrdd newydd yn dilyn yr Adolygiad Ffyrdd.
Yng ngoleuni hyn, cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.
3.2 P-06-1364 Argyfwng deintyddiaeth yng Nghymru. Rhaid sicrhau bod gan bob oedolyn a phlentyn fynediad at ddeintydd
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ac o ystyried bod y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol eisoes wedi cynnal gwaith craffu manwl yn ystod y flwyddyn ddiwethaf – a bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn y rhan fwyaf o argymhellion ei hadroddiad – nid yw’n glir beth arall y gallai’r Pwyllgor ei wneud ar hyn o bryd er mwyn ychwanegu gwerth pellach.
Yng ngoleuni hyn, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb, gan ddiolch i’r deisebydd am amlygu'r mater pwysig hwn.
3.14P-06-1365 Ailagor llinellau rheilffyrdd i gysylltu gogledd a de Cymru
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i aros am ymateb Llywodraeth Cymru i'r ddeiseb cyn penderfynu ar y cam nesaf.
3.4 P-06-1366 Adfer y cyllid ar gyfer gwasanaethau Bysiau Cwm Taf 351 (Dinbych-y-pysgod i Bentywyn) a 352 (Dinbych-y-pysgod i Gilgeti)
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chroesawodd gadarnhad y Dirprwy Weinidog y bydd Trafnidiaeth Cymru yn ystyried y ddau lwybr hyn yn ofalus fel rhan o’u trafodaethau ag awdurdodau lleol. Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu'n ôl at y Gweinidog i ofyn am ddiweddariad ar ganlyniad y drafodaeth ar y llwybrau penodol hyn.
3.5 P-06-1368 Dylai Llywodraeth Cymru gymryd camau i gadw’r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol mewn perthynas â Chymru
Diolchodd y Pwyllgor i’r myfyrwyr am gyflwyno eu deiseb, ac am rannu eu dadansoddiad technegol manwl sy’n gwneud cyfres o argymhellion i ddiwygio’r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol yn y dyfodol.
Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i rannu gohebiaeth y deisebwyr, ac i ofyn am atebion i'r cwestiynau a amlinellwyd yn eu hymateb.
At hynny, cytunodd yr Aelodau i dynnu sylw at y ddeiseb a rhannu gohebiaeth y deisebwyr â'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith, sy'n monitro'r rheoliadau hyn ar hyn o bryd.
3.6 P-06-1369 Defnyddiwch enwau Cymraeg yn unig ar gyfer lleoedd yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Gomisiynydd y Gymraeg yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am ddiogelu enwau Cymraeg lleoedd yng Nghymru.
Nododd Joel James, MS, nad yw'n cefnogi craidd y ddeiseb.
3.7 P-06-1370 Achub y ddarpariaeth mân anafiadau dros nos yn Ysbyty Nevill Hall yn y Fenni
Datganodd Joel James AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae'n adnabod y deisebydd.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i godi ymwybyddiaeth o’r ddeiseb, gofyn iddynt ei chynnwys fel rhan o’r ymatebion i’r ymgynghoriad a gofyn beth yw eu cynlluniau a’u hamserlen ar gyfer gwneud penderfyniadau ar ôl i’r ymgynghoriad cyhoeddus ddod i ben, sydd wedi'i ymestyn i 1 Rhagfyr.
3.8 P-06-1373 Dylid atal Llywodraeth Cymru rhag gwastraffu £4 miliwn ar ddatblygiad preifat “Skyline” ar Fynydd Cilfái, Abertawe
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd gryfder y teimlad a'r gwaith manwl gan ymgyrchwyr.
Cytunodd yr Aelodau i dynnu sylw'r awdurdod lleol at y ddeiseb a gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sy'n cael ei wneud ar y mater.
3.9 P-06-1375 Cynnal etholiad Senedd yn gynnar
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i aros am ymateb Llywodraeth Cymru cyn penderfynu ar y cam nesaf i'w gymryd, gan gynnwys ystyried a ddylid gofyn am ddadl yn y Cyfarfod Llawn.
4 Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol
4.1 P-06-1356 Cyflwyno mesurau diogelwch cynhwysfawr ar gyffordd 'Mynegbost' yr A477
Rhoddodd y Cadeirydd y wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am ei ymweliad diweddar â safle cyffordd ‘Mynegbost’ yr A477 lle cyfarfu â’r Aelod o’r Senedd lleol, Sam Kurtz, ynghyd ag ymgyrchwyr, cynghorwyr lleol, a chynrychiolwyr o swyddfa Simon Hart.
Cytunodd yr Aelodau i aros am ganlyniad y ddadl sydd i'w chynnal ar 22 Tachwedd.
5 Papur i'w nodi P-06-1326 – Dylai'r Senedd graffu ar y sgandal mesuryddion rhagdalu yng Nghymru
Nodwyd y papur.
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
Derbyniwyd y cynnig.
7 Trafod y dystiolaeth – P-06-1358 Adolygu'r cyllid annigonol ar gyfer ysgolion yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywodd.